Green Flag Award home page

Login to Park Management

Park/Green Space Login


Asesiad y Barnwr

Asesiad y Barnwr


Yn dilyn eich cais, ac ar yr amod ein bod ni wedi derbyn eich holl ddogfennau ategol, bydd Barnwr y Wobr Baner Werdd yn cynnal asesiad maes o’ch safle.  Fe fyddwch chi’n derbyn sawl dyddiad i ddewis ohonynt, ac mae'n rhaid i chi ddewis un o’r dyddiadau sy’n cael eu cynnig.  Yn ogystal, gallai beirniad gynnal ymweliad ‘ar hap’, unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.


Noder bod gan y beirniaid yr hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol os ydynt angen rhagor o eglurhad.  Mae’r asesiad yn seiliedig ar beth sy’n bodoli ar ddiwrnod yr ymweliad, nid ar y cynlluniau sydd gennych chi ar gyfer y dyfodol.

Ar y diwrnod y bydd yr asesiad maes yn cael ei gynnal, mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn gwrtais a’n gynorthwyol i’r tîm beirniadu, a sicrhau bod ganddynt fynediad i bob rhan o’r parc/man gwyrdd.  Yn ogystal, efallai y bydd beirniaid eisiau edrych o amgylch y safle heb i’ch staff fod yn bresennol.


System sgorio


I gyflawni statws Gwobr Baner Werdd, mae'n rhaid i ymgeiswyr sgorio lleiafswm o 66%, ac o leiaf 50% ar y ddesg asesu (sgôr o 15 allan o 30), a 60% yn y gwerthusiad maes (sgôr o 42 allan o 70).


Enillwyr gwobrau


Bydd yr holl enillwyr yn cael eu hysbysu o’u llwyddiant ym mis Gorffennaf, a bydd cyhoeddiad cyhoeddus yn cael ei wneud rhai wythnosau wedyn.  Fel enillydd, byddwch chi’n derbyn baner neu bennwn a thystysgrif, ac mae’n rhaid i chi eu harddangos yn eich parc/man gwyrdd am gyfnod o flwyddyn o’r dyddiad y dyfarnir y wobr.

Fel safle buddugol, fe fyddwch chi’n derbyn adborth sy’n amlygu eich cryfderau, ac sy’n cynnig argymhellion gan y beirniaid am bob un o wyth o feini prawf y wobr.

Gall Cynllun y Wobr Baner Werdd ddefnyddio enwau’r parciau/mannau gwyrdd buddugol a’u hawdurdodau rheoli cysylltiedig, lluniau, a gwybodaeth berthnasol ar ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddol.  Caiff safleoedd buddugol eu hannog i ddefnyddio logo’r Wobr Baner Werdd ar ddeunydd swyddfa ac ar lenyddiaeth hyrwyddol am y cyfnod y’i dyfarnir.

Os fydd safonau mewn parc/man gwyrdd buddugol yn disgyn islaw safonau annerbyniol, bydd y rheolwyr safle’n cael eu hysbysu, a bydd disgwyl iddynt gywiro’r broblem, neu fel arall, fe fydd y Wobr yn cael ei diddymu.


Ymgeiswyr aflwyddiannus


Fe fydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hysbysu drwy lythyr ym mis Gorffennaf, ac fe fyddan nhw’n derbyn copi o adborth y barnwr ynghylch eu safle.  Mae’r adroddiad yn egluro penderfyniad y barnwr, a’n amlygu’r cryfderau a’r argymhellion ar gyfer pob un    o ‘r wyth o feini prawf.  Noder bod penderfyniad pwyllgor rheoli Cynllun y Wobr Baner Werdd yn derfynol.

 

 

 

 


  • Green Flag Community Award
  • Green Heritage Site Award logo
  • Communities and Local Government logo
  • BCTV logo
  • Green Space logo
  • Keep Britain Tidy logo