Meini Prawf Asesu’r Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
Fe fydd pob cais am Wobr Gymunedol Y Fanerdd Werdd yn cael ei feirniadu ar ei ben ei hun gan farnwr annibynnol. Mae beirniad yn sgorio pob man gwyrdd yn erbyn rhestr wirio fanwl sy’n seiliedig ar y meini prawf canlynol:
Man croesawgar
Mae argraffiadau cyntaf yn bwysig iawn, a dylai’r safle ymddangos yn groesawgar. Dylid ystyried materion fel:
Mynediad da a diogel, Croesawgar, Arwyddion, a mynediad hafal i bawb.
Iach, saff a diogel
Mae’n bwysig iawn bod y safle’n ddiogel. Dylid ystyried materion fel: diogelwch personol, offer a chyfleusterau diogel, lefel addas o gyfleusterau a chwn yn baeddu.
Glân a’u cynnal a’u cadw’n dda
Dylid cael safon addas o gynnal a chadw drwy gydol y safle, a sgiliau rheoli effeithiol i ddelio â materion fel: rheoli sbwriel a gwastraff, safon cynnal a chadw cyffredinol yn cynnwys graffiti a fandaliaeth.
Cynaliadwyedd
Fe fyd beirniaid yn archwilio materion amgylcheddol fel defnyddio mawn a phlaleiddiaid, defnyddio adnoddau cynaliadwy, a lleihau gwastraff.
Bioamrywiaeth a threftadaeth
Mae pob man gwyrdd yn unigryw a gyda chymeriad ei hun. Fe fydd y beirniaid yn canfod natur y gadwraeth a gwerth hanesyddol y safle, a pha fesurau sydd wedi cael eu cymryd i gynyddu hyn lle’n addas.
Ymglymu’r Gymuned
Mae hwn yn faen prawf pwysig ar gyfer y Wobr Penwn Gwyrdd, gan ei fod yn edrych ar ba mor dda mae’r safle’n cysylltu â’n ymglymu’r gymuned leol ac ehangach.
Rheolaeth/Cyflawniadau
Yma, fe fydd beirniaid yn edrych ar beth ydych chi wedi’i gyflawni, nid yn unig yn nhermau rheoli’r man gwyrdd, ond hefyd pa arian ac adnoddau ydych chi wedi’u diogelu, a sut ydych chi wedi’u defnyddio nhw. Fe fydd pa mor greadigol ac arloesol rydych chi wedi bod gyda phrosiectau ar eich safle o ddiddordeb yma hefyd.