Green Flag Award home page

Login to Park Management

Park/Green Space Login


Meini Prawf Beirniadu Wobr Baner Werdd

Meini Prawf Beirniadu Wobr Baner Werdd


Mae ceisiadau am wobr yn cael eu beirniadu yn erbyn wyth o feini prawf allweddol.  Pan nad yw meini prawf penodol yn cael eu cwrdd, gallai ymgeiswyr roi rhesymau am hyn, a allai gael eu cymryd i ystyriaeth. Yn fwyfwy, os oes newidiadau mewn arferion rheoli ar y gweill, ond nad ydynt wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn eto, bydd camau pontio’n cael eu cymryd i ystyriaeth.


Yn ogystal, mae’r meini prawf beirniadu’n ystyried y ffaith y bydd pob parc/man gwyrdd yn cynnig mathau gwahanol o gyfleusterau, ac y byddan nhw’n cael eu rheoli a’u datblygu yn ôl amryw o gyfleoedd a chyfyngiadau.  Bydd arloesed, a’r ffordd y mae’r cyfleusterau sy’n cael eu cynnig yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y gymuned yn cael eu cymryd i ystyriaeth hefyd.


Wyth cam allweddol


1. Man croesawgar


Wrth gyrraedd parc/man gwyrdd neu fynd i mewn iddo, dylai’r argraff gyffredinol i unrhyw aelod o’r gymuned - er gwaethaf pwrpas eu hymweliad - fod yn bositif a’n groesawgar.  Dylid cyflwyno’r canlynol:
• Mynediad da a diogel
• Arwyddion da i, ac yn y parc/man gwyrdd
• Mynediad hafal i bob aelod o’r gymuned.

 
2. Iach, saff a diogel


Mae’n rhaid i’r parc/man gwyrdd fod yn fan iach, saff a diogel i bob aelod o’r gymuned.  Mae’n rhaid cyfeirio at unrhyw fater sydd wedi dod i’r amlwg yn y cynllun rheoli, a’u gweithredu ar y tir.  Dylid cyfeirio at faterion newydd sy’n dod i’r amlwg yn gyflym a’n addas:
• Mae'n rhaid i offer a chyfleusterau fod yn saff i’w defnyddio
• Mae’n rhaid iddo fod yn fan diogel i bob aelod o’r gymuned i’w ddefnyddio neu i’w groesi
• Dylid delio’n addas gyda chwn yn baeddu 
• Mae'n rhaid i bolisïau iechyd a diogelwch fod mewn lle, a chael eu defnyddio a’u harolygu’n rheolaidd
• Dylai toiledau, dwr yfed, cymorth cyntaf, ffonau cyhoeddus ag offer argyfwng ble’n addas (e.e. gwregys achub ger y dwr), fod ar gael i mewn neu’n agos i barc/man gwyrdd, a chael eu harwyddo’n glir.


3. Glân a’u cynnal a’u cadw’n dda


Dylid cyfeirio’n briodol at faterion sy’n ymwneud â glendid a chynnal a chadw am resymau esthetig yn ogystal â rhesymau iechyd a diogelwch, yn enwedig y canlynol:
• Rheoli sbwriel a gwastraff arall
• Cynnal a chadw tiroedd, adeiladau, offer a nodweddion eraill
• Dylai polisi ar sbwriel, fandaliaeth a chynnal a chadw fod mewn lle, a chael ei ddefnyddio a’i arolygu’n rheolaidd


4. Cynaliadwyedd


Dylai dulliau sy’n cael eu defnyddio i gynnal a chadw’r parc/man gwyrdd a’i gyfleusterau fod yn amgylcheddol gadarn, a dibynnu ar arferion da sydd ar gael yn unol â gwybodaeth gyfredol.  Dylai rheolwyr fod yn ymwybodol o’r ystod o dechnegau sydd ar gael iddyn nhw, a dangos bod dewisiadau gwybodus wedi cael eu gwneud a’n cael eu harolygu’n rheolaidd, Dylai parciau/mannau agored:
• Gael polisi amgylcheddol neu siarter a strategaeth rheoli mewn lle, sy’n cael eu defnyddio a’u harolygu’n rheolaidd
• Leihau a chyfiawnhau'r broses o ddefnyddio plaleiddiaid
• Gael gwared â’r broses o  ddefnyddio mawn
• Ailgylchu gwastraff planhigion
• Arddangos safonau garddwriaeth a choedyddiaeth uchel
• Gael mesurau arbed ynni, lleihau llygredd, ailgylchu gwastraff, ac arbed adnoddau mewn lle


5. Cadwraeth a threftadaeth


Dylid talu sylw arbennig at gadwraeth a rheolaeth briodol y canlynol:
• Nodweddion naturiol, bywyd gwyllt a ffawna
• Tirweddau
• Adeiladau a nodweddion strwythurol
• Dylai’r rhain gyflawni eu rôl yn dda, heb osod gormod o bwysau ar yr amgylchedd sy’n eu hamgylchynu


6. Ymglymu’r Gymuned


Dylai rheolwyr y parc/man gwyrdd geisio cynnwys aelodau’r gymuned yn eu gwaith, fel bod cymaint â phosib o grwpiau defnyddwyr y parc/man gwyrdd yn cael eu cynrychioli.  Dylid dangos y canlynol:
• Gwybodaeth am ddefnyddwyr y gymuned a lefelau a phatrymau’r defnydd
• Tystiolaeth o ymglymiad y gymuned mewn rheoli ac/neu ddatblygiadau a chanlyniadau a gyflawnwyd
• Lefelau addas o gyfleusterau hamdden i bob sector o’r gymuned


7. Marchnata


• Dylai strategaeth farchnata fod mewn lle, sy’n cael ei defnyddio a’i harolygu’n rheolaidd
• Dylai digon o wybodaeth gael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr, e.e. ynghylch strategaethau rheoli, gweithgareddau, nodweddion, ffyrdd o gymryd rhan
• Dylai’r parc/man gwyrdd gael ei hyrwyddo fel adnodd cymunedol


8. Rheoli


• Dylai cynllun neu strategaeth rheoli fod mewn lle sy’n adlewyrchu dyheadau Agenda Lleol 21
• Dylai hyn gyfeirio’n glir ac yn ddigonol at yr holl feini prawf uchod, ac at unrhyw agweddau perthnasol eraill ar reoli’r parc/mannau gwyrdd.
• Dylai’r cynllun gael ei weithredu a’i arolygu’n rheolaidd
• Yn ogystal, dylid dangos rheolaeth ariannol gadarn o’r parc/man gwyrdd


  • Green Flag Community Award
  • Green Heritage Site Award logo
  • Communities and Local Government logo
  • BCTV logo
  • Green Space logo
  • Keep Britain Tidy logo