Consortiwm & Noddwyr y Wobr Baner Werdd
Mae Cynllun Gwobr y Faner Werdd wedi cael ei reoli gan gonsortiwm newydd ers 2009, sy’n cynnwys Cadwch Gymru’n Daclus, BTCV a GreenSpace.
Mae’r consortiwm, sy’n adnabyddus gyda’i gilydd fel Partneriaeth y Faner Werdd, yn rheoli’r cynllun yng Nghymru ar gyfer Grwp Llywio Cymru.
Am ragor o wybodaeth ar Bartneriaeth y Faner Werdd,, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
www.keepbritaintidy.org
www2.btcv.org.uk
www.green-space.org.uk
Ein Noddwyr yng Nghymru
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n hyrwyddo amgylchedd a thirweddau Cymru, ynghyd â dyfroedd ei glannau, fel ffynonellau cyfoeth naturiol a diwylliannol, fel sail i weithgarwch economaidd a chymdeithasol, ac fel llefydd y gellir hamddena a dysgu ynddynt. Ein nod yw gwneud yr amgylchedd yn rhan werthfawr o fywydau pawb yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.ccw.gov.uk
Comisiwn Dylunio Cymru
Sefydliad cenedlaethol yw Comisiwn Dylunio Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo dyluniad da i gefnogi amgylchedd adeiledig cynaliadwy, o ansawdd dda. Mae Comisiwn Dylunio Cymru’n frwdfrydig am leoedd a gofodau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://dcfw.org/
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Corff Gweithredol a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Ein nod yw creu lle gwell i bobl a bywyd gwyllt yng Nghymru. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn ni greu amgylchedd gwell nawr ac ar gyfer cenhedloedd y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.environment-agency.gov.uk
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o bryderon dydd i ddydd pobl Cymru fel yr economi, iechyd, addysg a llywodraeth leol.
Rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru yw arfer y swyddogaethau sydd wedi'u datganoli iddi er mwyn gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl o.