Gwobr y Faner Werdd
Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw’r meincnod safon cenedlaethol ar gyfer parciau a gofodau gwyrdd yng Nghymru a Lloegr.
Fe’i lansiwyd gyntaf ym 1996 i gydnabod a gwobrwyo gofodau gwyrdd gorau’r wlad. Dyfarnwyd y gwobrau cyntaf ym 1997 a, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r cynllun yn parhau i ddarparu’r meincnod gogyfer â’r ffordd y caiff ein parciau â’n gofodau gwyrdd eu mesur. Fe’i gwelir hefyd fel ffordd o annog eraill i gyflawni safonau amgylcheddol uchel, gan osod meincnod o ragoriaeth mewn ardaloedd gwyrdd hamdden.
Mae ceisiadau ar gyfer Gwobr y Faner Werdd yn agored i barciau/gofodau gwyrdd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd, ar hyn o bryd, yn treialu’r cynllun yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Iseldiroedd.
Os ydych yn teimlo bod eich parc/gofod gwyrdd yn cwrdd â’r Meini Prawf Beirniadu ar gyfer Gwobr y Faner Werdd, yna dylech gysylltu â Mel Ab Owain yng Ngwobr y Faner Werdd yng Nghymru am fwy o gyfarwyddyd. Gallwch anfon neges e-bost at melabowain@btinternet.com neu ei ffonio ar 01745 826528.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r Llawlyfr Cyfarwyddyd (yn y Gymraeg) drwy glicio yma